aelodaeth ffitrwydd i bawb!
Gallwch fyw bywyd iachach a hapusach gydag aelodaeth Casnewydd Fyw!
Does dim ots os ydych chi'n gweithio allan yn rheolaidd neu os ydych chi'n ddechreuwyr llwyr, rydym ni yma i'ch cefnogi ac i'ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd. Gwell gweithio ar eich pen eich hun? Mae hynny’n iawn hefyd. Eich taith chi, eich ffordd chi!
Ewch Amdani
Ymunwch â Casnewydd Fyw heddiw a chael cyfle i ennill 6 mis o aelodaeth ffitrwydd.
Gweld aelodaethEich Taith Aelodaeth
Mae aelodaeth Casnewydd Fyw ar gael i bobl iau ac oedolion ac mae'n rhoi mynediad i'n campfeydd, ein pyllau, dosbarthiadau ymarfer grŵp ym mhob un o'n lleoliadau. Mae eich taith aelodaeth yn cael ei chefnogi'n llawn - y cam cyntaf yw eich sesiwn groeso i aelodau i roi cychwyn ar eich taith. Mae’r gefnogaeth arall y gallwn ei gynnig i'ch helpu i gyrraedd eich nodau yn ddewisol!
Croeso
Dysgwch ychydig yn fwy am sut y gallwn eich helpu gyda'ch nodau, taith o’r gampfa a chwrdd â'n hyfforddwyr. Gall eich croeso hefyd gynnwys gwiriad iechyd os dymunwch.
Gwiriad Iechyd
Mae archwiliad iechyd byr gydag un o'n hyfforddwyr cymwys yn mesur pwysau, taldra, BMI a % braster corff neu fodfeddi ac yn helpu i gynnig man cychwyn i chi i fonitro eich cynnydd.
Rhaglen
Mae rhaglen bersonol wedi'i chreu gyda hyfforddwr a'i theilwra i chi i chi i'ch helpu i gyflawni eich nodau.
Sesiynau Unigol
Sesiwn unigol 30 munud wythnosol gyda hyfforddwr ffitrwydd cymwys i'ch cadw ar y trywydd iawn.
Amdani!
Dechreuwch eich ffordd iach o fyw gyda ni ac elwa o'r canlynol.
Campfa
Mynediad i 5 campfa gan gynnwys champfa pwysau am ddim.
Nofio
Nofio cyhoeddus diderfyn.
Dosbarthidau Ymarfer Corff
Amrywiaeth gwych o ddosbarthiadau ymarfer corff bob dydd o'r wythnos.
Beicio Grŵp Dan Do
Yn ein Stiwdio Feicio Grŵp Dan Do gyfoes.
Llogi Cyrtiau a Lleiniau
1 awr o dennis, badminton, tenis bwrdd a phêl-bicl.
Cymorth i Aelodau
Cymorth a rhaglenni ffitrwydd personol.
Tocynnau sinema 2-am-1
Tocynnau sinema 2-am-1 yng Nglan yr Afon.
Gostyngiadau Theatr
Gostyngiadau ar sioeau detholedig yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydol Glan yr Afon.
Am delerau ac amodau aelodaeth cliciwch yma.
Rhowch gynnig arni am ddim!
Os nad ydych wedi penderfynu eto, rhowch gynnig arnom ni am ddim am 3 diwrnod.
Cliciwch yma am eich pàs 3 diwrnodTalu a Chwarae
Os nad oes gennych aelodaeth, gallwch barhau i fynychu ein dosbarthiadau a'n cyfleusterau. Cofrestrwch am ddim, mynediad hawdd at archebu a thalu ar-lein.
Cofrestri Nawr