Newport Inclusion Cohesion Shield

Daeth rhwydwaith partneriaid Lefelu’r Maes Chwarae yng Ngwent at ei gilydd i gynnal Cohesion Shield Cynhwysiant Casnewydd i gefnogi pobl ifanc o gymunedau ethnig amrywiol. 

Mynychwyd y gystadleuaeth bêl-droed, a gynhaliwyd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, gan 100 o bobl ifanc 11-18 oed o bartneriaid arbenigol Lefelu’r Maes Chwarae ledled y ddinas: Positive Futures, Prosiect Ieuenctid Cymunedol a ffoaduriaid ifanc a cheiswyr lloches o Gymdeithas Gymunedol Yemenïaidd Casnewydd a The Sanctuary. 

Nid yw'r rhan fwyaf o chwaraewyr yn rhan o dîm pêl-droed rheolaidd, felly mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi profiad cadarnhaol iddynt, y cyfle i gwrdd â phobl ifanc o wahanol gymunedau, chwarae'n gystadleuol a chael eu gwobrwyo am eu hymdrechion.  Mae'r digwyddiad yn gwella cydlyniant ymysg gwahanol grwpiau lleiafrifoedd.

Derbyniodd y twrnamaint, a gafodd ei ddarparu gan Gasnewydd Fyw Positive Futures a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd, gyllid drwy Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a Chyngor Dinas Casnewydd. 

Dywedodd Lucy Donovan, Uwch Swyddog Datblygu yn Positive Futures:  "Roedd y digwyddiad Cohesion Shield Cynhwysiant Casnewydd yn gyfle gwych i roi cyfle i bobl ifanc ledled Casnewydd ddod i fwynhau chwaraeon, chwarae ochr yn ochr â'u ffrindiau, cwrdd â phobl ifanc newydd o wahanol gymunedau a derbyn gwobrau, medalau, a bag pethau da. 

"Roedden ni eisiau i'r digwyddiad annog cydlyniant ymysg pobl ifanc a rhoi'r cyfle i bobl ifanc chwarae mewn twrnamaint, yn rhad ac am ddim, mewn lleoliad diogel, addas." 

Meddai Matt Elliott, Gweithiwr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid: "Fe wnaeth y digwyddiad helpu i brofi i'r bobl ifanc y gallan nhw fod gyda'i gilydd, dod draw a chwalu rhwystrau ymhlith gwahanol gymunedau. Mae chwaraeon yn ffordd wych o bontio'r bylchau a gadael materion y tu allan i'r gêm."  

Derbyniodd yr enillwyr leoliad ar y darian flynyddol a phêl-droed newydd, a derbyniodd yr holl gyfranogwyr fedal, coesarnau, crysau-t a bag pethau da.  Derbyniodd yr holl gyfranogwyr frechdanau, byrbrydau a diodydd.  

Cyflwynodd rheolwr Sir Casnewydd, James Rowberry, wobrau ac roedd John Griffiths, Aelod o'r Senedd Llafur dros Ddwyrain Casnewydd a Glannau Hafren hefyd yn bresennol. 

Dywedodd: "Yr hyn rydyn ni i gyd eisiau ei weld yw ehangu mynediad yn enwedig mewn cymunedau lle nad ydynt, am ba bynnag reswm, yn cael yr un cyfleoedd ag eraill. Wrth i’r plant hyn ddod yma i fwynhau'r cyfleusterau gwych ac sydd wedi cael ei drefnu mor dda, maen nhw'n mynd i gymryd llawer ohono a'i gofio."