Mae dysgu sut i nofio yn sgìl bywyd allweddol i unrhyw blentyn! 

Rydym yn cynnig rhaglen Dysgu Nofio Nofio Cymru sy'n addysgu'r sgiliau a'r technegau i blant aros yn ddiogel o amgylch dŵr a mwynhau manteision iechyd gweithgareddau yn y dŵr.

I weld argaeledd ar ein rhaglen nofio, siaradwch â’n timau derbynfa neu ffoniwch ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 01633 656757.

Cwestiynau Cyffredin Gwersi Nofio

Toddler in swimming pool looking into camera

Swigod 1 & 2

Mae Swigod yn gyflwyniad i’r amgylchedd dŵr gyda chefnogaeth lawn i fabanod a phlant ifanc sydd yng nghwmni oedolyn, wedi’i anelu’n benodol at blant 0-18 mis oed.

young baby splashing in water

Swigod 3 & 4

Mae Swigod yn gyflwyniad i’r amgylchedd dŵr gyda chefnogaeth lawn i fabanod a phlant ifanc sydd yng nghwmni oedolyn, wedi’i anelu’n benodol at blant 18-36 mis oed.

Little boy with orange arm floats in a pool

Sblash

Mae Sblash yn annog plant ifanc i ddod yn fwyfwy annibynnol, ac i ddarganfod yr amgylchedd dŵr dan gyfarwyddyd, er mwyn datblygu eu hyder yn y dŵr. Mae wedi’i anelu at blant 3+ oed.  

Academïau  

Mae Academïau Casnewydd Fyw yn cynnig cyfle i blant ddatblygu eu techneg nofio a'u sgiliau yn raddol mewn amgylchedd sy’n hwyl a braf. 

Swimming Lesson

Academi 1 a 2

Academi 1 a 2 yw’r wers i ddechreuwyr ar gyfer plant 7-12 oed yn unig. Yn dilyn Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru, mae ein hacademïau yn canolbwyntio ar ddatblygu pob un o'r pedair techneg strôc nofio mae eu hangen i symud ymlaen i amrywiaeth o weithgareddau dŵr.

Young Boy in blue goggles smiles at the side of the pool

Academïau 2 – 6

Yn dilyn Rhaglen Dysgu Nofio Nofio Cymru, mae ein hacademïau yn canolbwyntio ar ddatblygu pob un o'r pedair techneg strôc nofio mae eu hangen i symud ymlaen i amrywiaeth o weithgareddau dŵr. 

 

Child in Pink Swim Cap doing front crawl

Academïau 7 ac 8

Canolbwyntio ar dechneg a sgiliau nofio uwch ac amrywiol.

Mae Academïau 7 ac 8 yn rhan o Glwb Nofio a Pholo Dinas Casnewydd, sy'n rhoi cyfle i nofwyr hyfforddi ar lefel gystadleuol neu ddysgu sgiliau dŵr arbenigol.

Mae angen Aelodaeth Flynyddol gyda Nofio Cymru ar nofwyr sydd am gystadlu, am ragor o wybodaeth ewch i swimwales.org

 

Gwersi Nofio Iau 

Rydyn ni'n cynnig gwersi nofio i blant ychydig yn hŷn sydd am gychwyn eu taith Dysgu Nofio . Bydd gwersi'n canolbwyntio ar sgiliau a datblygiad yn ogystal â diogelwch dŵr gan alluogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dŵr. 

Cysylltu â ni

Home Portal

Rheolwch wersi eich plentyn ar-lein gyda Home Portal. Y cyfan sydd angen ei wneud yw mewngofnodi a thracio cynnydd eich plentyn yn erbyn y meini prawf a bennwyd ar gyfer ei gyfnod  cyfredol yn y gwersi nofio. Gallwch hefyd symud eich plentyn i ddosbarth gwahanol ar ôl iddo basio ei gyfnod penodol. 

I gofrestru gyda Home Portal, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cerdyn adnabod eich plentyn sydd ar gerdyn nofio eich plentyn. Neu, cysylltwch â ni ar 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk
  • Dyddiad geni eich plentyn
  • Naill ai cyfeiriad e-bost neu god post sy'n cyfateb i'r un a gofnodwyd yn ein cronfa ddata
  • Ewch i newportlive.courseprogress.co.uk
  • Yna, bydd gennych yr opsiwn i gofrestru pob plentyn sy'n defnyddio'r un cyfeiriad e-bost.
  • Anfonir e-bost actifadu ac ar ôl ei dderbyn gallwch actifadu eich cyfrif trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Gwersi Nofio i Blant ag Anghenion Ychwanegol

Rydym hefyd yn cynnig gwersi i blant ag anghenion ychwanegol. 

Cysylltu â ni

Gwersi Nofio Cymraeg

Rydym hefyd yn cynnig gwersi nofio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cysylltu â ni

Cwestiynau Cyffredin Dysgu Nofio Cymru

Dewch o hyd i atebion i'n cwestiynau mwyaf doniol am fframwaith a chynllun gwaith Dysgu Nofio Cymru.

Mwy o wybodaeth

Aelodaeth Misol ar gyfer Gwersi Nofio

Mae’r Aelodaeth Misol ar gyfer Gwersi Nofio ar gael am £22.70 y mis. I gofrestru ar gyfer yr aelodaeth Debyd Uniongyrchol ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa.

Cysylltu â ni

Ymunwch â'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am Newport Live gan gynnwys ein rhaglen nofio i blant a gweithgareddau dyfrol.

Cofrestrwch Nawr