Llwybr Camau Achredu
Gwnewch eich ffordd o fod yn Ddechreuwr i Gam 4 neu fynd cyn belled ag y dymunwch; mae gennym sesiynau galw heibio ar gyfer pob cam.
Cyflwyniad i’r Trac Cam 1
Cyflwyniad gwych i feicio trac i ddechreuwyr 14+ oed; dim angen profiad blaenorol. Caiff beicwyr gyfarwyddyd llawn ar sut i reoli’r beic olwynion sefydlog a sut i feicio ar y trac pren serth.
Cam 2
Ar gyfer beicwyr sydd wedi gorffen Cam 1 ac sy'n barod i symud ymlaen i sgiliau a thechnegau mwy datblygedig ar y trac, megis marchogaeth grŵp a newidiadau llinell.
Cam 3
Ar gyfer beicwyr sy'n barod i symud ymlaen i sgiliau a thechnegau mwy datblygedig ar y trac, mae'r cam hwn yn canolbwyntio ar fireinio reidio grŵp ac yn cyflwyno driliau amrywiol i herio beicwyr o ran sgiliau a ffitrwydd.
Cam 4
Mae'r sesiwn hon yn cael ei chynnal ychydig o weithiau gydol y flwyddyn i ganiatáu i feicwyr ganolbwyntio ar y sgiliau a enillwyd mewn camau blaenorol ac mae hefyd yn cynnwys amser y tu ôl i'r beic Derny.
Cofiwch, bydd rhaid i hyfforddwr cam blaenorol neu sesiynau galw heibio gymeradwyo beicwyr os ydynt am gael prawf achredu. Nid yw’n bosibl mynychu sesiynau achredu heb hyn.
Dylai beicwyr sydd â chwestiynau am y broses achredu, neu feicwyr sydd â phrofiad Felodrom awyr agored ac sydd am feicio dan do, gysylltu â ni ar 01633 656757 a gofyn am y Tîm Beicio.
Oes gennych chi gwestiwn am ein llwybr?
Cymerwch olwg ar atebion i rai o'n cwestiynau mwyaf cyffredin.
Cwestiynau CyffredinSesiynau Galw Heibio ar gyfer Beiciwyr sy’n Oedolion
Mae tair sesiwn yn addas i feicwyr 14 oed a hŷn. Mae’n bosibl cadw lle mewn sesiynau 7 diwrnod ymlaen llaw.
Os oes gennych gyfrif ar-lein Casnewydd Fyw, archebwch sesiynau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Neu gallwch ein ffonio ar 01633 656757 neu anfon e-bost atom yn customerservice@newportlive.co.uk
SESIYNAU AGORED
Beicwyr Bendigedig
Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at feicwyr sy'n chwilio am sesiwn dygnwch gydag awyrgylch mwy hamddenol.
(Mae'n rhaid i feicwyr fod yn 14+ oed i archebu'r sesiwn hon.)
Dydd Llun: 2-4pm
Cost: £13.50
Trac Para Agored
Ar gyfer unigolion sydd am roi cynnig ar feicio trac am y tro cyntaf a beicwyr profiadol sydd eisiau amser penodol ar y trac er mwyn hyfforddi.
Dydd Gwener: 2 - 4pm
Cost: £13.50
CAM 2+
Sesiwn Galw Heibio Cam 2+
Sesiwn hyfforddi dygnwch dan arweiniad hyfforddwr sy'n canolbwyntio ar wella dygnwch reidiwr gan ddefnyddio ymdrechion unigol a gweithgareddau grŵp.
Dydd Llun: 8.30 - 10pm
Cost: £13.50
Beicwyr Bendigedig
Ar gyfer beicwyr sydd am wella eu sgiliau a'u ffitrwydd cyn symud ymlaen yn eu hachrediad trac, sesiwn ddelfrydol sy'n canolbwyntio ar gyfuniad o ymarferion adeiladu sgiliau a hyfforddiant ffitrwydd wedi'i deilwra ar gyfer eu lefel bresennol.
Dydd Mawrth: 7 - 9pm
Cost: £13.50
Sesiwn Galw Heibio Amser Cinio Cam 2+
Sesiwn hyfforddi dygnwch dan arweiniad hyfforddwr. Er bod y ffocws ar ymdrechion dygnwch, mae croeso i sbrintwyr ymuno a gallant deilwra eu hymdrechion i gyd-fynd â strwythur hyfforddiant cyfwng y sesiwn.
Dydd Ian: 12 - 2pm
Cost: £13.50
Cam 3+
Sesiwn Galw Heibio Amser Cinio Cam 3+
Sesiwn hyfforddi dygnwch dan arweiniad hyfforddwr. Er bod y ffocws ar ymdrechion dygnwch, mae croeso i sbrintwyr ymuno a gallant deilwra eu hymdrechion i gyd-fynd â strwythur hyfforddiant cyfwng y sesiwn.
Dydd Mawrth: 12 - 2pm
Cost: £13.50
Cyfnod Cynnar 3+
Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar ddygnwch ac ymdrech dwyster uchel. Anogir beicwyr i berfformio i’w heithaf a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl trwy waith dygnwch parhaus a chyfyngau hyfforddi dwys.
(Bydd sesiynau Derny ar gyfer beicwyr brwd yn cael eu trefnu yn ystod wythnos olaf pob mis.)
Dydd Mercher: 7 - 9pm
Cost: £13.50
Hyfforddiant Ansawdd Strwythuredig
Sesiwn dygnwch lefel uchel sy'n cynnig dull strwythuredig o wella dygnwch trwy ymdrechion unigol a hyfforddiant dwyster uchel a fydd yn gwthio beicwyr i'w heithaf.
Dydd Mercher: 9 - 10pm
Cost: £13.50
Clwb Beicwyr Hŷn
Sesiwn hyfforddi ar gyfer dynion 30 oed a hŷn a menywod o unrhyw oed a fydd yn canolbwyntio ar ymdrechion dycnwch gyda rhai ymdrechion dwys.
Mae croeso i sbrintwyr gwblhau ymdrechion yn ystod yr egwyl.
Dydd Gwener: 6 - 8pm
Cost: £13.50
Beicio Trac i Bobl Ifanc
Mae gennym ystod o sesiynau ar gyfer plant 9 i 15 oed i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a mynd ar y trac.
Mwy o wybodaeth