P'un a ydych yn feiciwr profiadol ai peidio, dysgwch sut i gychwyn ar eich taith feicio trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.

Adult Track Taster

Cam Cyflwyniad Trac Oedolion 1

Cyflwyniad 1 awr ar y trac i ddisgyblaeth gyffrous beicio trac.

Dan arweiniad hyfforddwr cymwys Beicio Prydain, bydd beicwyr yn dysgu sut i reoli beic olwynion sefydlog heb frêcs cyn mynd ati i feicio ar drac pren serth fel athletwyr Olympaidd!

Bydd angen i chi allu beicio, ond bydd yr hyfforddwr yn datblygu sgiliau’r beicwyr ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw.  Bydd maint y grŵp yn fach i alluogi oedolion a phobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf mewn ffordd ddifyr.

Dyma gam cyntaf ein llwybr achredu beicio trac.

Yn addas ar gyfer 14 oed a hŷn.

Dydd Gwener: 5 - 6pm
Dydd Mawrth: 9 - 10pm
Dydd Sul: 4 - 5pm
Cost: £20 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.

Youth Track Cycling

Cyflwyniad Ieuenctid Cam 1

Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar gael beicwyr i arfer ar ddefnyddio beic olwynion sefydlog a beicio'r trac gydag arweiniad hyfforddwr cymwys Beicio Prydain.

Ffordd ddelfrydol o roi cynnig ar feicio trac cyn pontio i'r rhaglen ieuenctid.

Addas ar gyfer beicwyr 9-15 oed.

Dydd Llun: 5 - 6pm
Dydd Sadwrn: 9 - 10am 
Cost: £10 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.

Rhowch Feicio Trac fel Rhodd

Mae Beicio Trac yn rhodd wych i'r beiciwr brwd yn eich bywyd. Mae gennym amrywiaeth o brofiadau beicio trac fel anrhegion.

gweld anrhegion

Beicwyr â Phrofiad Blaenorol ar y Trac

Os ydych chi eisoes yn cymryd rhan mewn beicio trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas neu felodrom arall yn y DU ac yn dymuno dod i un o'n sesiynau galw heibio neu achredu, ffoniwch 01633 656757 a gofynnwch am gael siarad â’r Tîm Beicio.